4a Polisi Talu Tai yn ôl Disgresiwn PDF 321 KB
Ward/Adran yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben:
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i weithredu ei rhaglen o ddiwygio llesiant. Mae gan y rhaglen nifer o amcanion polisi, i annog y rhai ar fudd-daliadau i ganfod gwaith a symud i ffwrdd o ddibynnu ar fudd-daliadau ac ar yr un pryd yn cyfrannu cyfran sylweddol o arbedion tuag at ostyngiadau gwariant cyhoeddus y Llywodraeth
Mae'r adroddiad yn crynhoi prif effeithiau'r rhaglen diwygio llesiant yn neilltuol yng nghyswllt gostyngiadau mewn Budd-dal Tai a gallu aelwydydd Sir Fynwy i fforddio eu taliadau rhent. Mae'n cynnwys cyfeiriad at ddiwygio sylweddol pellach, gostwng Cap Budd-daliadau aelwydydd.
Mae'r prif liniariad ymarferol a gynigir gan y Cyngor drwy weinyddu Taliadau Tai ar Ddisgresiwn er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid i lenwi'r bwlch rhent oherwydd diwygiadau llesiant. Gofynnir i'r Cabinet ystyried y polisi diwygiedig ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
Awdurr: Richard Davies, Pennaeth Gwasanaethau Rhannu Buddion
Manylion Cyswllt: Richard.davies@torfaen.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo'r Polisi Talu Tai yn ôl Disgresiwn a atodir isod ac ailddatgan y meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Nodiargymhellion craffu'r Pwyllgor Dethol Oedolion fel y nodir ym mharagraff 4.19 isod.
Bod y Cabinet yn dod i wybod am unrhyw ddiffygion cyn gynted â phosib, er mwyn eu hystyried ymhellach.