Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: I gyd
Pwrpas: I ddarparu trosolwg o newidiadau i drefniadau staffio sy'n creu Tîm Dylunio Digidol ac Arloesi newydd, cryfhau ein trefniadau llywodraethu gwybodaeth ac ehangu cylch gwaith y tîm perfformiad presennol i gynnwys dadansoddeg ddata.
Ceisiocymeradwyaeth ar gyfer y cyfeiriad strategol a gymerir gan y timau hyn sydd wedi'u hail-bwrpasu wrth iddynt ddefnyddio buddsoddiad y cytunwyd arno fel rhan o broses gyllideb 2021-22 i drawsnewid sut rydym yn diwallu anghenion a chyflawni ein pwrpas y tu hwnt i'r pandemig ac i'r cam nesaf o ddatblygiad ein sefydliad a'n sir.
Awdur: Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu
Sian Hayward, Pennaeth Digidol
ManylionCyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r cyfeiriad teithio a nodir o fewn y papur hwn fydd yn galluogi’r cyngor i adeiladu ar lwyddiannau hyd yma a symud yn gyflymach i sicrhau trawsnewid gwasanaethau yn unol â’r cyfeiriad strategol a nodir o fewn y Cynllun Corfforaethol.
Caiff y costau i weithredu’r cynigion eu cyllido drwy ddarpariaeth cyllideb o £300k a gynhwysir yng nghyllideb 2021/23 a’r Rhagolygon Ariannol Tymor Canol gyda’r gweddill yn dod o gyllidebau gwasanaeth presennol.