Ethol Cadeirydd newydd y Cyngor Sir ar gyfer Blwyddyn Sifig 2021/22
Cofnodion:
Roedd y Cyngor wedi cynnal munud o dawelwch er mwyn talu teyrnged i Ddug Caeredin, y Tywysog Phillip a fu farw a’r holl rai hynny sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig COVID 19.
Llongyfarchwyd y Cynghorydd Peter Fox a’r Cynghorydd Laura Jones ar eu hetholiad diweddar i’r Senedd.
Roedd yr Arweinydd wedi annerch y Cyngor, ac ar ran y Cyngor, wedi diolch i’r Cynghorydd Sir Woodhouse am ei hail flwyddyn yn y rôl ac wedi adlewyrchu ar waith a chyraeddiadau'r Cadeirydd. Roedd Arweinwyr y Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gr?p Annibynnol wedi ategu at yr hyn a ddywedodd yr Arweinydd.
Roedd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi diolch i’r Cyngor a’n cydweithwyr am eu cefnogaeth.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Fox, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir P. Murphy, bod y Cynghorydd Sir M. Feakins yn cael ei ethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Blwyddyn Sifig 2021/22. Yn dilyn pleidlais, cytunwyd y dylid ethol y Cynghorydd Sir Feakins fel Cadeirydd. Roedd y Cynghorydd Sir M. Feakins wedi gwneud ac arwyddo’r Datganiad Derbyn Swydd.
Roedd y Cynghorydd Feakins wedi diolch i’r Cyngor ac wedi cyflwyno’r Esgob Cherry Vann fel ei Gaplan.