Mater - cyfarfodydd

TEST

Cyfarfod: 17/06/2020 - Cabinet (eitem 4.)

4. DIWEDDARIAD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR FYNWY YNG NGOLEUNI COVID-19 pdf icon PDF 298 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt:Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad hwn yw rhoi diweddariad i’r Cabinet ar baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (RLDP) yng ngoleuni pandemig cyfredol COVID-19. Mae’n gwahodd y Cabinet i adolygu’r Materion, Gweledigaeth ac Amcanion sy’n ffurfio sail cyfeiriad strategol y Cabinet ac yn gofyn am gadarnhad y Cabinet fod y Materion, Gweledigaeth ac Amcanion yn dal yn gywir ac y dylai’r RLDP barhau i fynd rhagddo yn cynnwys cwblhau’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir ac ail alwad am safleoedd ymgeisiol. Mae’r adroddiad yn gwahodd y Cabinet i nodi paratoi’r RLDP oherwydd COVID-19, fydd yn golygu y bydd angen i’r Cyngor gymeradwyo Cytundeb Cyflenwi diwygiedig yn y misoedd nesaf, ac yn tynnu sylw at y materion sylweddol a achosir gan ddarpariaethau ‘disgyn yn farw’ yr LDP.

 

Awduron: Mark Hand, Pennaeth Gwneud Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd

Craig O’Connor, Pennaeth Cynllunio

Rachel Lewis, Rheolwr Polisi Cynllunio

 

Manylion Cyswllt: markhand@monmouthshire.gov.uk

craigoconnor@monmouthshire.gov.uk

rachellewis@monmouthshire.gov.uk  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo Materion, Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a chyfeiriad strategol y cynllun yng ngolau pandemig COVID-19, ei fod yn parhau’n berthnasol a phriodol ac yn cymeradwyo y dylid parhau i weithio ar y CDLlN.

 

Bod y Cabinet yn ysgrifennu at y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn galw am newid y Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 er mwyn cael gwared â’r darpariaethau deddfwriaethol ‘drop dead date’ er mwyn atal polisïau rhag cael eu sugno a galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud o fewn y CDLl presennol nes i’r CDLlN gael ei fabwysiadu, oni bai bod polisi neu dystiolaeth cenedlaethol fwy newydd yn dangos yn wahanol.