Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan
Diben: Ystyried a chymeradwyo cynnig i ddefnyddio cyfleuster adedysg awyr agored y Cyngor yn y Gilwern – yn bendol bloc Blorenges, i ddarpary llety argyfwng dros dro i’r digartref er mwyn i’r Cyngor gyflawni gofynion canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd yn ystod Covid 19. .
Awdur: Ian Bakewell, Rheolwr Tai a Chymunedau
Manylion Cyswllt: ianbakewell@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Ystyried y peryglon, y risgiau a’r heriau presennol o ran darparu llety i ymgeiswyr digartref.
Cytuno i ddefnyddio Bloc y Blorenge yng Nghanolfan Gilwern dros dro nes y 21ain o Awst 2020 ar gyfer llety i’r digartref mewn achosion brys sy’n ymwneud â Covid a phenodi swyddogion diogelwch i helpu i oruchwylio’r adeilad a’r safle.
Comisiynu swyddogion i baratoi adroddiad pellach sy’n ystyried yr opsiynau tymor canol a hir-dymor a chynigion ar gyfer darparu llety ar gyfer ymgeiswyr digartref.
Gweithio gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ganfod er mwyn talu’r costau o ran darparu llety i bobl ddigartref ychwanegol yn y dyfodol a thu hwnt i COVID-19
O ganlyniad i’r natur frys, bod y maen prawf arferol o ran galw i mewn yn cael ei ohirio a bod y penderfyniad hwn yn cael ei adrodd i’r Cyngor Llawn.