3a MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2019/20, DATGANIAD ALLDRO A RAGWELIR - MIS 7 PDF 1 MB
Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un
Diben:Diben yr adroddiad hwn yw cynnig gwybodaeth i Aelodau yngl?n â safle alldro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod, gan ystyried llithriad cyfalaf a defnydd wrth gefn cymeradwy.
Caiff yr adroddiad hwn hefyd ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:
• asesu a yw monitro cyllideb effeithiol yn digwydd;
• monitro i ba raddau y mae cyllidebau yn cael eu gwario yn unol â’r fframwaith sydd wedi’i gytuno am gyllideb a pholisi;
• herio rhesymoldeb troswariannau neu tanwariannau rhagamcanol; ac
• i fonitro llwyddiant enillion effeithlonrwydd rhagamcanol neu ddatblygiad yn ymwneud â chynigion arbed.
Awdur:Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Bod Aelodau’n nodi cyflawni’r 85% o arbedion wrth osod y gyllideb, a gytunwyd gan y Cyngor Llawn yn flaenorol, a’r angen am gamau adferol/arbediadau o ran tua 15% o arbedion (£994k) sydd, yn ôl adroddiadau gan reolwyr gwasanaeth, yn anghyraeddadwy neu’n debygol o fod yn hwyr.
Bod yr Aelodau’n ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £39.38m, gan gyflwyno £384k o danwariant disgwyliedig, a’r rhagdybiaeth a wnaed o ran canlyniadau cyllido net a welir ym mharagraff 4.4.
Bod Aelodau’n nodi faint o symud sydd wedi bod o ran y defnydd o’r gronfa wrth gefn, gan gynnwys tyniadau unigol ar falensau ysgolion, ac ar ragdybiaethau cynllunio ariannol darbodus (paragraff 5.2 ymlaen).