3e GWELEDIGAETH SIR FYNWY 2040: DATGANIAD TWF AC UCHELGAIS ECONOMAIDD PDF 232 KB
Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben: Cyflwyno ‘Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Datganiad Twf ac Uchelgais Economaidd’ drafft yn dilyn casgliad dadansoddiad ‘Economïau’r Dyfodol’ a chyfnod ymgynghori gydag Aelodau a’r gymuned fusnes leol.
Diben ‘Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Twf ac Uchelgais Economaidd’ yw gosod yr uchelgais economaidd ar gyfer y sir. Dilynir y Datganiad gan ‘Strategaeth Twf Busnes a Menter Sir Fynwy’ mwy manwl yn ogystal â Phrosbectws Mewnfuddsoddiadau sy'n cyd-fynd. Bydd y set o ddogfennau hon yn gweithio ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd, yn nodi safleoedd ac adeiladau cyflogi addas, er mwyn galluogi bod busnesau cyfredol yn tyfu ac i ddenu mewnfuddsoddiad o fusnesau newydd mewn sectorau twf allweddol. Bydd y CDLl hefyd yn ceisio cynyddu argaeledd safleoedd tai er mwyn cynnig cynhyrchion preswyl gwahanol, i alluogi cyfraddau uwch o swyddi fesul annedd.
Awdur: Cath Fallon, Pennaeth Menter ac Animeiddiad Cymunedol
Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
WEDI EI DDATRYS:
Roedd y Cynghorwyr Sir S. Jones a P. Fox wedi datgan buddiant personol a rhagfarnus yn sgil y ffaith fod yr adroddiad sydd yn amlygu CDLl yn amlygu eiddo personol fel rhan o setliad newydd posibl.
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r ‘Datganiad Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Twf Economaidd ac Uchelgais’ drafft.