Mater - cyfarfodydd

Test 6

Cyfarfod: 06/11/2019 - Cabinet (eitem 3e)

3e GWELEDIGAETH SIR FYNWY 2040: DATGANIAD TWF AC UCHELGAIS ECONOMAIDD pdf icon PDF 232 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un

 

Diben: Cyflwyno ‘Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Datganiad Twf ac Uchelgais Economaidd’ drafft yn dilyn casgliad dadansoddiad ‘Economïau’r Dyfodol’ a chyfnod ymgynghori gydag Aelodau a’r gymuned fusnes leol.

 

Diben ‘Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Twf ac Uchelgais Economaidd’ yw gosod yr uchelgais economaidd ar gyfer y sir.  Dilynir y Datganiad gan ‘Strategaeth Twf Busnes a Menter Sir Fynwy’ mwy manwl yn ogystal â Phrosbectws Mewnfuddsoddiadau sy'n cyd-fynd.  Bydd y set o ddogfennau hon yn gweithio ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd, yn nodi safleoedd ac adeiladau cyflogi addas, er mwyn galluogi bod busnesau cyfredol yn tyfu ac i ddenu mewnfuddsoddiad o fusnesau newydd mewn sectorau twf allweddol.  Bydd y CDLl hefyd yn ceisio cynyddu argaeledd safleoedd tai er mwyn cynnig cynhyrchion preswyl gwahanol, i alluogi cyfraddau uwch o swyddi fesul annedd.

 

Awdur: Cath Fallon, Pennaeth Menter ac Animeiddiad Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Roedd y Cynghorwyr Sir S. Jones a P. Fox wedi datgan buddiant personol a rhagfarnus yn sgil y ffaith fod yr adroddiad sydd yn amlygu CDLl yn amlygu eiddo personol fel rhan o setliad newydd posibl.

 

Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r ‘Datganiad Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Twf Economaidd ac Uchelgais’ drafft.