Mater - cyfarfodydd

Mid Year Treasury Report

Cyfarfod: 28/11/2019 - Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit (eitem 6)

6 Adroddiad Trysorlys Canol Blwyddyn pdf icon PDF 229 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Gyfrifydd, Y Trysorlys ac Asedau Sefydlog yr Adroddiad Canol flwyddyn, oedd wedi’i grynodi fel a ganlyn:   

 

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dempled a ddarparir gan Arlingclose, cynghorwyr Rheoli Trysorlys yr Awdurdod ac sydd wedi’i lunio’n benodol ar gyfer Cyngor Sir Fynwy.

Mae’r Awdurdod yn bwriadu cydymffurfio â Chod Rheoli Trysorlys y CIPFA sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yr Awdurdod yn cymeradwyo adroddiadau rheoli’r trysorlys pob blwyddyn a hanner blwyddyn ac ei fod yn rhoi sylw i ddiogelwch a hylifedd ei fuddsoddiadau cyn ceisio enillion ychwanegol.

 

Mae’r Cod Darbodus yn ei wneud yn ofynnol bod gan yr Awdurdod Strategaeth Gyfalaf wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor llawn, sy’n gosod y ffordd orau i gwrdd ag ystod eang o amcanion bod gan yr Awdurdod gydag adnoddau cyfalaf cyfyngedig.  Cafodd hyn ei gymeradwyo gan y Cyngor ar y 19eg o Fedi 2019 a chaiff ei ddiweddaru’n flynyddol.

 

Mae Cod Rheoli’r Trysorlys nawr yn cwmpasu buddsoddiadau heblaw trysorlys yn ogystal â buddsoddiadau trysorlys sy’n ei gwneud yn ofynnol bod Awdurdodau’n dangos sut ydynt yn darparu diwydrwydd dyladwy yn yr un modd a’u bod yn ei wneud am fuddsoddiadau Trysorlys. Nid yw’r Awdurdod wedi cynyddu ei ddaliad o fuddsoddiadau heblaw trysorlys yn hanner cyntaf 2019/20 ond mae’n dal yn edrych i wario balans llawn y £50m cymeradwy erbyn diwedd 2020/21. 

 

Mae yna wedi bod ansicrwydd economaidd yn 6 mis cyntaf 2019/20 gyda 6 mis ychwanegol yn debygol oherwydd estyniad dyddiad Brexit ac economi sy’n arafu yn Ewrop. Mae gwleidyddiaeth dramor hefyd wedi parhau i fod yn yrrwr mawr o farchnadoedd ariannol, er enghraifft gyda thensiynau parhaol rhwng yr UD a Tsieina.  Cynhaliodd Banc Lloegr cyfraddau o 0.75% er mwyn cefnogi’r economi.

 

Cwympodd cyfraddau llog gilt yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd hwn felly cymrodd yr Awdurdod fenthyciad hirdymor o £7m er mwyn sicrhau ychydig o fuddiant hirdymor o'r cyfraddau isel hyn, penderfyniad da wrth edrych yn ôl oherwydd codwyd cyfraddau PWLB gan 1% yn Hydref 2019.

 

Ar yr 31ain o Fawrth 2019 roedd gan yr Awdurdod Gofyniad Cyllid Cyfalaf benthyg o £183.9m a benthyciad allanol crynswth o £178.3m.  Cododd benthyg crynswth ychydig i £180.1m yn y 6 mis hyd at y 30ain o Fedi ond cwympodd benthyg net o £158.0 i £148.9m oherwydd cynnydd byrdymor mewn buddsoddiadau.

 

Mae’r Awdurdod yn parhau i ddal lleiafswm o £10m o fuddsoddiadau i gwrdd â gofyniadau cleient proffesiynol dan y rheoliadau Mifid II (Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol).   Mae’r buddsoddiad mewn cronfeydd cyfun strategol nawr wedi codi o £2m i £3m.  Mae’r cronfeydd hyn wedi dychwelyd incwm o £63,000 yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn. Caiff colledion cyfalaf o £45,000 gan gynnwys £39,000 untro eu hamsugno gan y gwarged a ddelir yng nghronfa ailbrisio’r Offerynnau Ariannol. 

Mae’r Awdurdod yn rhagweld arbediad o £243,000 ar gyfer 2019/20 ym meysydd llog taladwy a llog derbyniadwy yn erbyn cyfanswm cyllideb net o £4.0m.

 

Croesawyd cwestiynau a sylwadau, cawsant eu hateb fel a ganlyn:

 

Deallodd y Pwyllgor Archwilio y bydd benthyg hirdymor yn y dyfodol oddi wrth  ...  view the full Cofnodion text for item 6