8 Cyfrifon Archwiliedig Cronfa Degwm Cyngor Sir Fynwy PDF 191 KB
Cofnodion:
Ystyriwyd eitemau 8 a 9 gyda’i gilydd.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cyllid, Cronfa Eglwys Cymru. Ni adroddwyd unrhyw fater sylweddol.
Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru taw adroddiad syml ydoedd. Cwblhawyd y datganiadau cyllid drafft yn gynnar a bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoddi adroddiad archwilio anghymwys ar ôl derbyn llythyr o gynrychioliad.
Nid oedd yna gamddatganiadau oedd heb eu cywiro.
Roedd y rheini bod angen eu hadrodd (rhwng £1000 distadl a deunydd £20,000) ar gael yn yr adroddiad.
Croesawyd cwestiynau:
Roedd y Rheolwr Cyllid, Cyllid Canolog, yn hapus gyda'r adroddiad â'i fod wedi'i gwblhau'n gynnar. Caiff y cyfrifon eu cyflwyno i’r Comisiwn Elusen fel bo angen.
Datganodd y Cynghorydd Sir B. Strong diddordeb personol, diragfarn fel aelod o'r Panel.
Cadarnhawyd bod Cronfa Eglwys Cymru'n dilyn cyngor buddsoddi Arlingclose.
Nodwyd a rhoddwyd sylwadau gan y Cyngor yngl?n â'r cyfrifon a'i archwiliad allanol.