Mater - cyfarfodydd

Treasury outturn report

Cyfarfod: 12/09/2019 - Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit (eitem 6)

6 Adroddiad Alldro'r Trysorlys pdf icon PDF 196 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad newydd sy’n haws i’w ddarllen.  Ail adroddiad 2018/19 oedd hwn.

 

Cwestiynodd Aelod, mewn perthynas â gweithgaredd y Pwyllgor Buddsoddi, y datganiad bod “yr holl ddyled wedi codi dros y trothwy gweithredol pan gymrwyd y benthyciad er mwyn prynu Parc Hamdden Casnewydd sydd heb ei ganiatáu ar gyfer yn y ffin weithredol cafodd ei chynnwys yn strategaeth y trysorlys 2018/19" ac ymholodd a fydd strategaeth y trysorlys yn cael ei haddasu'r flwyddyn nesaf os yw argymhellion y Pwyllgor Buddsoddi i’w parhau. 

 

Esboniwyd y gwahaniaeth rhwng ffin weithredol a therfyn cyfiawn.  Roedd y gwariant o bron £30m dros y ffin weithredol ond nid y terfyn cyfiawn o £50m am dair blynedd.  Mae'r gwariant ar Castlegate a Pharc Hamdden Casnewydd o fewn y terfyn cyfiawn. 

 

Cytunwyd yr argymhelliad bod Aelodau'n nodi canlyniadau gweithgareddau rheolaeth y trysorlys a'r perfformiad y'i cyflawnwyd yn 2018/19 fel rhan o’u cyfrifoldeb dirprwyedig i ddarparu archwiliad o bolisi, strategaeth a gweithgaredd y trysorlys ar ran y Cyngor.