3d MENTER - SICRHAU CYDBWYSEDD A CHRYFHAU'R LLINELL FLAEN PDF 89 KB
Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben: Ceisio cymeradwyaeth i aildrefnu swyddi a chyfrifoldebau o fewn y Gyfarwyddiaeth Fenter i gydbwyso llwyth gwaith, adlewyrchu synergedd mewn rolau a gwasanaethau ac i adlewyrchu gofynion gwasanaeth a phrosiectau yn well mor bell ag sy'n bosibl o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Creu capasiti ychwanegol o fewn y gwasanaethau rheng flaen lle dynodwyd gofynion sylweddol.
Creu cyfleoedd ehangu/dilyniant gyrfa tra'n rhyddhau adnoddau i gynnal gwaith seiliedig ar brosiect a chefnogaeth gyffredinol i Uwch Dîm Rheoli Menter.
Awdur: Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter
Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo'r buddsoddiad i swyddi newydd i gefnogi'r galw am wasanaethau a'r strategaeth ariannu a ddisgrifir yn yr adroddiad (Atodiad 2 a 3).
Cymeradwyo strwythur a rolau a chyfrifoldebau newydd UDRh y Fenter (Atodiad 1B).
Bod y Prif Swyddog Menter yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r strwythur newydd ac yn gwneud unrhyw newidiadau a allai ddod yn amlwg yn ystod y broses gan ymgynghori ag aelod o'r Cabinet am adnoddau.