Mater - cyfarfodydd

TEST

Cyfarfod: 09/01/2019 - Cabinet (eitem 3a)

3a ADRAN GYFREITHIOL Y DYFODOL pdf icon PDF 96 KB

Isadrannau/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob un

 

Pwrpas:

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi esblygu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae’r byd yn newid hefyd.  Effaith y ddau newid yw twf mewn pwysau allanol megis achosion Amddiffyn Plant (i fyny >75% yn 2018 yn unig) a thirlun cyfreithiol ansicr o ganlyniad i Brexit, a phwysau mewnol o ganlyniad i Gynllun Corfforaethol uchelgeisiol a strategaethau sylfaenol sydd angen dyfeisgarwch a hyblygrwydd . Er gwaethaf y newid hwn, nid yw’r Adran Gyfreithiol wedi esblygu ar yr un raddfa, ac mae rhai meysydd wedi mynd tuag yn ôl yn nhermau dyfeisgarwch. Mae’r tîm ei hun yn dda; mae’n  cynnwys unigolion medrus, hynod brofiadol gydag ymrwymiad didwyll i’w gwaith a’u Sir. Mae’r ffaith bod lefel y gwasanaeth lle mae ar hyn o bryd, o ganlyniad i’w parodrwydd hwy i fynd yr ail filltir. Fodd bynnag, braidd bod y strwythur na’r capasiti i ymdopi  â’r galw cyfredol, ac mae’r sefyllfa’n un lle nad yw’r Adran yn debygol o allu delio â’r hyn y dylai’r galw cyfredol fod, ac mae angen newid i gefnogi lle mae’r Cyngor yn amlwg yn anelu ato. Yn ehangach, mae cyngor cyfreithiol allanol ar draws y Cyngor heb fod yn gydgysylltiedig, heb gael ei ddatblygu’n llawn a heb fod yn rhwym wrth unrhyw fath o sicrwydd ansawdd - caiff cymaint ei wario ar gyngor cyfreithiol allanol ag ar yr adran gyfreithiol yn gyfan gwbl.

 

Nod yr adroddiad hwn hefyd yw amlinellu sut dylai adran gyfreithiol y dyfodol edrych a sut y cyflawnir hyn.  Nod y cam cyntaf hwn yw sefydlogi’r ddarpariaeth gyfreithiol bresennol tra ceisir effeithlonrwydd drwy systemau newydd a strwythurau newydd o waith a fydd yn galluogi cwrdd â’rgwiralw, costau i’w dadlennu a chodiadau costau pellach ar draws yr adrannau i’w hatal. Wedi hynny, y nod fydd lleihau costau drwy gydgysylltu holl gyngor cyfreithiol CSF yn well ac uwchsgilio’r adran gyfreithiol i gymryd mwy o waith yn y dyfodol. Unwaith y gosodir y sylfaen hon, gellir asesu cyfleoedd i gynhyrchu incwm, gan droi elfennau o’r adran gyfreithiol i mewn i adrannau sy’n gwneud elw, nid beichiau costus, heb effeithio ar y gwaith statudol creiddiol sydd eisoes yn cael ei wneud.

 

Awdur: Matt Phillips, Pennaeth y Gyfraith a Swyddog Monitro

 

ManylionCyswllt: matthewphillips@monmouthshire.gov.uk