Mater - cyfarfodydd

Test 6

Cyfarfod: 05/09/2018 - Cabinet (eitem 3f)

3f RHEOLI RHWYSTRAU YN Y BRIFFORDD - ADOLYGU'R POLISI pdf icon PDF 76 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt :  Pob un

 

Pwrpas:Cymeradwywyd polisi i reoliRhwystrau yn y briffordd (gan gynnwys byrddau A, arddangosfeydd, byrddau, cadeiriau ac ati) gan y Cabinet yn Ionawr 2018.

 

Yndilyn gwrthwynebiad oddi wrth fusnesau ataliwyd cyflwyno’r polisi dros dro er mwyn ymgynghori ymhellach (yn arbennig drwy gynnal cyfarfodydd yn Nhrefynwy a’r Fenni) ac ar ôl hynny ganiatáu cyfle i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf dderbyn y gwrthwynebiadau, adolygu’r polisi a gwneud unrhyw argymhellion a ystyria’r Cabinet yn briodol.

 

CyfarfuPwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ar 30ain Gorffennaf  i ystyried a ddylid adolygu’r polisi. Penderfynodd y pwyllgor argymell newidiadau i’r polisi  ac amlinellir y newidiadau yn yr argymhellion i’r Cabinet a restrir isod.

 

Awdur: Roger Hoggins, Pennaeth Gweithrediadau

 Steve Lane, Peiriannydd Gr?p, Gweithrediadau Priffyrdd y Sir

 

ManylionCyswllt: rogerhoggins@monmouthshire.gov.uk; stevelane@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod taliadau am drwyddedau ar gyfer arddangosiadau, byrddau, cadeiriau yn cael eu tynnu'n ôl ond bod ffioedd sy'n codi o ddiffyg cydymffurfio â'r cynllun trwyddedau (fel y manylir arnynt yn y polisi presennol) yn parhau.

 

Bod meini prawf ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y polisi er mwyn caniatáu i fusnesau feddiannu ardal fwy na 18 metr sgwâr lle gellir cyflawni hyn heb beryglu diogelwch neu achosi rhwystr annerbyniol ar y briffordd (ac ar ôl derbyn asesiad risg gan yr ymgeisydd).

 

Bod unrhyw gais gan fusnes i feddiannu ardal sy'n fwy na 18 metr sgwâr yn cael ei gymeradwyo gan Reolwr Priffyrdd y Sir neu'r Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad â'r aelod lleol a'r Aelod Cabinet dros Weithrediadau.

 

Bod y Pwyllgor hwn yn argymell i'r Cabinet y dylai'r cynllun trwyddedau ar gyfer safleoedd unigol fel y'i disgrifir o fewn y polisi presennol aros mewn lle.