Mater - cyfarfodydd

Test 5

Cyfarfod: 05/09/2018 - Cabinet (eitem 3e)

3e RHAGLENNI CRONFA GYMDEITHASOL MENTER IEUENCTID - ESTYN YSBRYDOLI I GYFLAWNI (12A) AC YSBRYDOLI I WEITHIO (I2W) pdf icon PDF 745 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt :  Pob un

 

Pwrpas:Wedi i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu rhaglen y Fenter Ieuenctid, Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio, ym Mawrth  2016, ac yng Ngorffennaf  2017 mae Menter Ieuenctid yn ceisio arian cyfatebol pellach o gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio’r Awdurdod ar gyfer 2018-19 ac Ystyriaeth Cyllideb Sylfaen o 2019-20 i 2022-23. Bydd y cyllid hwn yn galluogi estyn y rhaglen 12A bresennol i Ragfyr 2021 sy’n darparu cymorth addysg a lles gyda’r nod o leihau’r risg o ddod yn NEET (Heb Gyfranogi mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a’r rhaglen 12W bresennol i Ragfyr 2022 sy’n darparu cymorth ôl 16, ymyrraeth a chyfleoedd cyflogaeth gan ddefnyddio arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE).

 

Awdur: Hannah Jones, Rheolwr Menter Ieuenctid CSF

 

ManylionCyswllt: hannahjones@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod Cabinet yn ystyried ac yn cymeradwyo'r cais am arian cyfatebol ychwanegol o arian wrth gefn y Gronfa Buddsoddi i Ailgynllunio ar gyfer 2018-19 ac Ystyriaeth Cyllideb Sylfaenol o 2019-20 i 2022-23 ar gyfer yr estyniad Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio.