DATGANIAD ALLDRO MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2018/19
Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoddi i’r Aelodau wybodaeth ar sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod cofnodi 1 sy’n cynrychioli’r sefyllfa ariannol alldro ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 yn seiliedig ar weithgareddau sy’n cynnwys mis Mai.
Caiffyr adroddiad hwn hefyd ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldebau i:
• asesu a yw monitro effeithiol o’r gyllideb yn digwydd,
• fonitro’rgraddau y mae cyllidebau’n cael eu gwario yn unol â’rgyllideb a’r fframwaith polisi a gytunwyd;
• heriorhesymoldeb gorwariant a thanwariant cynlluniedig, a
• monitrocyflawni enillion effeithlonrwydd disgwyliedig neu gynnydd mewn perthynas âchynigion i arbed.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod yr Aelodau'n ystyried y gorwariant refeniw net o £471,000 a rhagwelwyd.
Bod Aelodau'n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £35.7 miliwn, sy'n unol â darpariaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn, ar ôl y llithriant arfaethedig o £75,000. Mae hyn yn disgrifio'r sefyllfa o ran mantoli'r gyllideb yn gynnar yn y flwyddyn, er bod posibilrwydd o gostau ychwanegol i ysgolion yr 21ain ganrif o ran dileu mwy o asbestos a chostau trin nas rhagwelwyd, y mae cydweithwyr yn nodi gall fod gwerth tua £350,000.
Bod Cabinet yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn a gynigir ym mharagraff 3.8.1,
Bod Aelodau'n nodi y bydd y lefel isel o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn lleihau’n sylweddol hyblygrwydd y Cyngor i gwrdd â her adnoddau prin yn y dyfodol.
Bod Aelodau'n nodi graddau'r symudiadau mewn cyllidebau unigol a gyllidebwyd ar gyfer balansau ysgolion, ac yn cydnabod diffyg rhagamcanol net a gofnodwyd o £622 mil sy’n ganlyniad i hynny, a chefnogi diwygiadau i Reoliadau Ariannu Tecach Cyngor Sir Fynwy fel y'u disgrifir ym mharagraff 3.8.13 ar gyfer ymgysylltu pellach â fforymau ysgolion a chyrff llywodraethu.