Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt – Pob un
Pwrpas: Cyflwyno Strategaeth Ddrafft Trais yn erbyn Menywod Gwent, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i’r Cabinet cyn cael ei mabwysiada ar draws Gwent i’r cynigydd a ffefrir..
Awdur: Sharran Lloyd: Rheolwr Datblygu Cymunedau a Phartneriaethau
Manylion Cyswllt: sharranlloyd@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cabinet yn ystyried ac yn cytuno i fabwysiadu'r Strategaeth VAWDASV Gwent (Atodiad A) drafft fel rhan o gydweithrediad rhanbarthol Gwent wrth gyflawni Deddf VAWDASV (2015).
Bod y Cabinet yn cytuno i fabwysiadu'r Strategaeth ddrafft ar sail y ffaith y bydd y copi terfynol yn cynnwys argymhellion ar draws y 4 Pwyllgor Craffu Awdurdod Lleol arall a bwrdd craffu partneriaid Gwent. Cafodd y strategaeth ddrafft ei chymryd i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf Cyngor Sir Fynwy ar 29ain Mawrth, lle gwnaed yr argymhellion canlynol:
· Cynnwys rhif ffôn y llinell gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn a gwybodaeth am y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol
· Cynnwys gwybodaeth benodol am y prosiect a manylion y lleoliad ar gyfer y darllenwyr hynny nad ydynt yn gyfarwydd â'r dirwedd o bosibl