Manylion y penderfyniad

2020/21 REVENUE & CAPITAL OUTTURN STATEMENT

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cydnabod sefyllfa cyllideb refeniw net gytbwys ar all-dro ar ôl cyfrifo am drosglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sy’n cynrychioli gwelliant sylweddol o £5.15m o’r cyfanswm diffyg a adroddwyd ym mis 9, yn bennaf fel canlyniad i:

·       Derbyn £5.9m o gyllid caledi Covid-19 Llywodraeth Cymru ers mis 9 fel iawndal i’r Cyngor i gefnogi costau uwch darparu gwasanaethu a cholli incwm fel canlyniad uniongyrchol i effaith Covid-19;

·       Derbyn grantiau sylweddol heb fod yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru a gafodd eu cyfathrebu i a’u derbyn gan yr Awdurdod yn hwyr yn y flwyddyn ariannol ac sydd wedi gwrthbwyso cyllid cyllideb craidd;

·       Tanwariant mewn llawer o feysydd gwasanaeth fel canlyniad i’r pandemig a lle cafodd gwasanaethau eu gostwng neu eu stopio, lle cafodd gofynion teithio eu gostwng, lle arhosodd swyddfeydd ac adeiladau ar gau a bod nifer sylweddol o swyddi gwag wedi parhau heb eu llenwi.

 

Bod Aelodau yn cydnabod bod Cronfa Galedi Covid-19 Llywodraeth Cymru wedi cynnwys yr holl gostau ychwanegol yn gysylltiedig â Covid-19 a gafwyd yn uniongyrchol yn ystod blwyddyn ariannol £11.25m ynghyd ag iawndal am golli incwm o £8.38m.

 

 

Bod Aelodau’n nodi y cafodd 85% o’r arbedion gwasanaeth penodol a nodwyd yn y gyllideb fel y manylir yn Atodiad 2 ac fel y cytunwyd gan y Cyngor llawn yn flaenorol a’r camau gweithredu unioni goblygedig/arbedion a gynhwysir yn yr all-dro ariannol i wneud iawn am tua 15% o arbedion (£734k) y dywedodd rheolwyr gwasanaeth eu bod wedi oedi neu na fedrid eu cyflawni.

 

Bod Aelodau’n cymeradwyo’r strategaeth a weithredwyd i adlenwi cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd fel y’u nodwyd o fewn yr adroddiad i gefnogi heriau ariannol y dyfodol a sicrhau cadernid ariannol mewn cyfnod o ansicrwydd sylweddol wrth i ni barhau i gael adferiad o’r pandemig ac wrth i ddarpariaeth ein gwasanaethau newid yng ngoleuni tirlun economaidd-gymdeithasol sylweddol wahanol ac wrth i ymrwymiadau polisi ehangach, yn lleol ac yn genedlaethol, ddechrau cymryd siâp.

 

Wrth ddilyn y dull gweithredu a nodir uchod, mae’r Cabinet yn cydnabod natur arbennig blwyddyn ariannol 2020/21 ac yn derbyn bod pwysau a risgiau sylweddol cylchol yn dal i fod ar wasanaethau yn 2021/22 ac yn y tymor canol.

 

Mae’r Cabinet yn nodi’r gwelliant digynsail mewn balansau cronfeydd wrth gefn Ysgolion o £3.85m fel y’i cynhwysir yn Atodiad 1 sydd wedi arwain at i 15 o’r 17 ysgol a ddechreuodd y flwyddyn mewn diffyg ddychwelyd i falans gwarged. Mae hyn yn adlewyrchu’r lefelau sylweddol o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru a hysbyswyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol yn bennaf yn ymwneud â Grant Cynhaliaeth Refeniw Ysgolion a Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.

 

Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r gofyniad i ysgolion sydd â balansau gwarged sylweddol sy’n uwch na’r lefelau a nodir gan Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau buddsoddi yn nodi sut y bwriadant wario eu balansau gwarged sylweddol, gan hefyd werthfawrogi fod y diffygion strwythurol cynhenid sydd wedi arwain at i 17 ysgol fod mewn diffyg ar ddechrau’r flwyddyn yn parhau ac angen eu datrys pa bynnag gyllid ychwanegol a dderbynnir.

 

Bod Aelodau yn ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £19.0m, yn cyflwyno tanwariant o £3.18m yn bennaf oherwydd tanwariant o’r gyllideb cyfarwyddeb cyfalafu a chynlluniau penodol gysylltiedig â grantiau a bod hyn yn ddilynol yn rhyddhau £1.08m o dderbyniadau cyfalaf yn ôl i gronfeydd wrth gefn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol.

 

Bod Aelodau’n nodi’r ceisiadau llithriad o £49.92m fel y’u rhestrir yn Atodiad 6 ynghyd â’r tybiaethau cysylltiedig a wnaed am ganlyniadau cyllido fel y manylir yn Atodiad 1, ac yn derbyn y bydd Swyddogion yn gwneud asesiad pellach o’r cyfiawnhad dros lithriadau cynllun ac yn gwneud argymhellion yn ôl i’r Cabinet am gymeradwyaeth terfynol fel rhan o fonitro ariannol mis 2 ar gyfer 2021/22.

 

 

That Members endorse the strategy applied to replenish earmarked reserves as noted within the report to support future financial challenges and ensure financial resilience during a period of significant uncertainty as we continue to recover from the pandemic and as the delivery of our services change in light of a severely altered socio–economic landscape, and as wider policy commitments, both locally and nationally begin to take shape.

 

In taking the approach set out above, Cabinet recognises the extraordinary nature of the 2020/21 financial year and accepts that there remains significant recurring service pressures and risks in 2021/22 and over the medium term.

 

Cabinet notes the unprecedented improvement in Schools reserve balances of £3.85m as contained in Appendix 1 that has resulted in 15 of the 17 schools entering the year in deficit returning to a surplus balance. This reflects the significant levels of grant support from Welsh Government that was notified late in the financial year primarily relating to Schools Revenue Maintenance Grant and Recruit, Recover and Raise Standards.

 

That Cabinet endorses the requirement for schools carrying significant surplus balances that are above levels guided by Welsh Government to provide investment plans setting out how they intend to spend their significant surplus balances, whilst also appreciating that the inherent structural budget deficits that have led to 17 schools being in deficit at the start of the year remain and require resolution irrespective of additional funding received.

 

That Members consider the capital outturn spend of £19.0m, introducing an underspend of £3.18m primarily due to underspending of the capitalisation directive budget and specific grant related schemes and that this subsequently releases £1.08m of capital receipts back to reserve for future capital investment.

 

That Members note the slippage requests of £49.92m as listed in Appendix 5 along with the related presumptions made around financing consequences as detailed in Appendix 1, and accept that officers will make a further assessment of the justification for scheme slippage and make recommendations back to Cabinet for final approval as part of the month 2 financial monitoring for 2021/22.

Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 09/06/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/06/2021 - Cabinet

Accompanying Documents: