Manylion y penderfyniad

FINAL REVENUE AND CAPITAL BUDGET PROPOSALS

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn argymell i’r Cyngor:

 

a) Cyllideb refeniw 2021/22 fel y’i hatodir yn Atodiad I1.

 

b) Rhaglen cyfalaf 2021/22 i 2024/25 fel y’i hatodir yn Atodiad J1.

 

Bod y Cabinet yn cydnabod bod y cynigion cyllideb terfynol a gynigiwyd yn mynd ati i gefnogi blaenoriaethau’r cyngor ac yn benodol yn anelu i gydnabod:

 

a) Yn llawn, yr holl bwysau cysylltiedig â chyflogau a phensiwn yn ein system ysgolion;

 

b) Y galw cynyddol a roddwyd ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol oedolion a’n plant gyda chyllidebau anghenion dysgu ychwanegol;

 

c) Pwysau cost sylweddol o fewn yr uned cludiant teithwyr ac o fewn ailgylchu a gwastraff sy’n anelu i sicrhau fod y Cyngor yn cefnogi ac yn cynnal darpariaeth gwasanaethau allweddol;

 

d) Buddsoddiad sy’n sicrhau y caiff pobl ddigartref gymorth, cyngor a llety digonol ar eu hadeg o angen;

 

e) Ymrwymiad parhaus i gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniad y gweithlu a sicrhau na chaiff staff llywodraeth leol dâl nad yw’n ddim llai na’r cyflog a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw ac fel canlyniad bod benderfyniad y Cabinet ym mis Ionawr hefyd yn cel ei ymestyn i rolau prentisiaeth.

 

Y caiff cynnydd o 3.89% cyfwerth â Band “D” Treth Gyngor ei ddefnyddio fel y dybiaeth cynllunio yn y model cyllideb ac i’w weithredu ar gyfer dibenion y Sir yn 2021/22, wedi’i ostwng o’r cynnydd blaenorol a gynigiwyd o 4.95% ac fel canlyniad i ymgynghori â’r cyhoedd.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion diwygiedig ar arbedion a phwysau, a ddiweddarwyd yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd, craffu a bod gwybodaeth fwy cyfredol ar gael ers cyhoeddi’r drafft gynigion ar ymgynghoriad ar 20 Ionawr 2021.

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau a buddsoddiad ychwanegol yn yng nghynigion drafft y gyllideb gyfalaf a rhaglen ar gyfer 2021/22 a chyllidebau cyfalaf dangosol o 2022/23 i 2024/25.

 

Bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn gwaredu ag asedau a ddynodwyd yn y papur cefndir eithriedig ar werth gorau.

 

Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gadernid y broses cyllideb ac ar ddigonolrwydd cronfeydd wrth gefn a gyhoeddwyd dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, ynghyd ag asesiad o’r risgiau ariannol cyfredol a dyfodol sy’n wynebu’r Cyngor.

 

Bod y Cyngor yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar ddangosyddion darbodus.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo:

 

a)     Cynnal gwaith pellach i ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canol cytbwys.

 

b)     Cynnal adolygiad rheolaidd o’r Cynllun Ariannol Tymor Canol i sicrhau ei fod yn parhau’n gyfredol a bod hynny’n cynnwys asesiadau o bwysau a risgiau seiliedig ar dystiolaeth, tybiaethau modelu sylfaenol a goblygiadau fforddiadwyedd parhaus y Cynllun Corfforaethol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Cabinet

Accompanying Documents: