Manylion y penderfyniad

REVENUE & CAPITAL MONITORING 2020/21 FORECAST OUTTURN STATEMENT - MONTH 9

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cydnabod bod y rhagolwg gwarged net heblaw Covid ym mis 9 o £142k yn cynrychioli gwelliant o £660k ers mis 7, yn bennaf fel canlyniad i gamau cadarnhaol a gymerwyd yn ystod y flwyddyn ariannol i gwtogi gwariant heb fod yn hanfodol a thrwy ostyngiadau cost.

 

Bod y Cabinet yn ei gwneud ofynnol i uwch swyddogion gwtogi costau ar gyfer gweddill y flwyddyn a lle bynnag sydd modd geisio cymryd mantais o arian grant sy’n dod i’r amlwg yn hwyr yn y flwyddyn i godi’r gwarged diwedd blwyddyn ymhellach a thrwy wneud hynny roi gofod i’r Cabinet ar gyfer dewis polisi ac mae hynny’n cynnwys balansau cronfeydd wrth gefn a derbyniadau cyfalaf cyfyngedig y Gall y cyngor eu defnyddio i ateb heriau ariannol y dyfodol.

 

Gellir rhoi sicrwydd rhesymol i’r Cabinet yn seiliedig ar ddialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru a chyllid a dderbyniwyd hyd yma y caiff yr holl incwm, colledion a phwysau cost cysylltiedig a chymwys eu hariannu gan nodi:

 

a) Rhagolwg cyfanswm diffyg refeniw net ym mis 9 o £5.15m, gwelliant o £1.28m o fis 7 ac sy’n cynnwys rhagolwg diffyg o £5.28m sydd yn uniongyrchol gysylltiedig gyda’r pwysau ariannol arbennig oherwydd COVID-19;

 

b) Ers paratoi’r rhagolygon cyllideb ar gyfer mis 9 bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r Awdurdod y bydd swm pellach o £2.02m ar gael i’r Awdurdod yng nghyswllt hawliadau a wnaed i’r gronfa Caledi ar gyfer gwariant ychwanegol a gafwyd ym mis Rhagfyr 2020 a cholledion incwm a gafwyd yn ystod chwarter 3 y flwyddyn ariannol, ac y bydd hynny yn ei dro yn gostwng y rhagolwg diffyg cysylltiedig o £5.26m yn ymwneud â COVID-19 i £3.26m. Disgwylir hefyd y derbynnir £1.53m pellach ar gyfer eitemau a hawliwyd ond os nas cymeradwywyd hyd yma yn disgwyl eglurhad pellach i Lywodraeth Cymru.

 

Wrth ddilyn y dull gweithredu a nodir uchod, mae’r Cabinet yn cydnabod natur eithriadol y flwyddyn bresennol ac yn derbyn y cafodd pwysau cylchol sylweddol ar wasanaethau eu hymgorffori yn y broses gosod cyllideb barhaus ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 os na chânt eu lliniaru fel arall.

 

Mae’r Cabinet yn nodi maint y symudiadau a ragwelir yn nefnydd cronfeydd wrth gefn Ysgolion a roddir yn atodiad 1.

 

Mae’r Cabinet yn ystyried yr rhagolwg gwariant alldro cyfalaf o £22.38m wrth ochr llithriad sylweddol o £40.45m a’r tybiaethau a wnaed o amgylch y canlyniadau cyllido, fel yr amlinellir yn atodiad 1.

 

Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Cabinet

Accompanying Documents: