Manylion y penderfyniad

STRATEGAETHAU BUDDSODDIADAU A CHRONFEYDD Y GRONFA YMDDIRIEDOLAETH ADDYSG A CHRONFA’R DEGWM 2021/22

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Bod y Strategaeth Buddsoddiadau a Chronfeydd arfaethedig ar gyfer 2021/22 ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Ffermydd Sir Fynwy yn cael ei chymeradwyo.

 

Bod Strategaeth Buddsoddiadau a Chronfeydd 2021/22 arfaethedig Cronfa Eglwysi Cymru yn cael ei chymeradwyo.

 

Dirprwyo cyfrifoldeb am weithredu a gweinyddiaeth penderfyniadau rheoli trysorlys i’r Prif Swyddog Adnoddau (swyddog A151) a fydd yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Buddsoddiadau a Chronfeydd (Atodiad 2).

 

Cymeradwyo dyraniadau grant 2021/22 i fuddiolwyr yr Awdurdod Lleol i Gronfa Deddf Eglwysi Cymru Sir Fynwy o £210,000 i’w ddosbarthu yn unol â’r data poblogaeth yn y drafft Setliad Llywodraeth Leol 2021/22.

 

Bod Bwrdd Ymddiriedolaeth Ysgolion Ffermydd Sir Fynwy yn penderfynu ar ddyraniad grant 2021-22 yn ei gyfarfod yn Ionawr 2021 yn seiliedig ar ddychweliad buddsoddiad y blynyddoedd blaenorol hyd at ddiwedd Mawrth 2020, ac unrhyw danwario a gariwyd ymlaen o ddyraniad grant 2020-21, ac osgoi erydu’r gronfa yn gyffredinol.

 

Cymeradwyo Egwyddorion, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grantiau Cronfa Eglwysi Cymru 2021-22 (Atodiad 6) fel y’u hystyriwyd a’u cymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Eglwys Cymru ar 14 Ionawr 2021.

 

Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Cabinet

Accompanying Documents: