Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNWYD:
Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn cael ei chymeradwyo.
Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Eglwys Cymru’n cael ei chymeradwyo.
Dirprwyo cyfrifoldeb dros weithredu a gweinyddu penderfyniadau rheolaeth trysorlys i’r Pennaeth Cyllid (swyddog S151) a fydd yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd (atodiad 2).
Cymeradwyo’r dyraniad o £210,000 o grant 2020/21 i fuddiolwyr Awdurdod Lleol i Gronfa Deddf Eglwys Cymru Sir Fynwy, i’w rannu yn unol â chyfrannau poblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2010.
Bod Bwrdd Ymddiriedolaeth Ysgol Fferm Sir Fynwy’n penderfynu ar ddyraniad grant 2020-21 yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2020 yn seiliedig ar enillion ar fuddsoddiad y blynyddoedd blaenorol ar ddiwedd Mawrth 2019, ac y bydd unrhyw danwariant o ddyraniad grant 2019-20yn cael ei gario ymlaen er mwyn osgoi erydiad y gronfa gyfan.
Cymeradwyo’r Egwyddorion Cronfa, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grant Eglwys Cymru ar gyfer 2020-21 (Atodiad 6) a ystyriwyd a ac a gymeradwywyd ym Mhwyllgor Cronfa Eglwys Cymru ar y 16ain o Ionawr 2020.
Dyddiad cyhoeddi: 09/07/2020
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/02/2020 - Cabinet
Accompanying Documents: