Manylion y penderfyniad

From County Councillor J. Watkins

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

 

Roedd y Cynghorydd Sir F. Taylor wedi eilio’r cynnig.

 

Roedd Aelodau wedi mynegi eu cefnogaeth i’r cynnig. 

 

·       Awgrymwyd fod angen symud yn fwy tuag at gerbydau a pheiriannau gwyrdd o ran yr hyn sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyd a lled y Sir. 

·       Pan fydd cerbydau sbwriel yn cael eu hadnewyddu, rhaid i ni symud i gerbydau electrig  neu hybrid er mwyn lleihau’r allyriadau.

·       Symud i annog mwy o weithwyr i gerbydau gwyrdd o ran teithio ar ran y gwaith.  

·       Gweithio gyda’n holl adeiladau, a’r MHA, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd y systemau gwresogi.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir Smith wedi gofyn i’r Cyngor gydnabod angerdd ac ymdrechion y trigolion a oedd wedi trefnu’r Seminar Hinsawdd.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir Taylor wedi mynegi rhwystredigaeth gyda mesurau fel dileu tollau’r M4, sydd yn gwaethygu’r argyfwng tai. Ychwanegodd fod siarad am leihau allyriadau carbon a lliniaru newid hinsawdd tra’n cefnogi’r cais i adeiladu M4 newydd, yn wrthgyferbyniad llwyr.  

 

Diolch yr Arweinydd i’r Cynghorydd Watkins am y cynigion a chynhigiodd y diwygiad canlynol i’r cynnig:

 

Bydd y Cyngor hwn yn ceisio lleihau ei allyriadau carbon i fod yn ddi-garbon, yn unol gyda tharged Llywodraeth Cymru o 2030.

Bydd y cyngor hwn yn datblygu strategaeth a chynlluniau gweithredu cysylltiedig er mwyn cyrraedd y targedau yma cyn gynted ag sydd yn ymarferol.  

Bydd y cyngor hwn yn parhau i adolygu’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Lles, Cynlluniau Datblygu Lleol a chynlluniau perthnasol eraill a pholisïau er mwyn cefnogi’r uchod.  

Hyrwyddo’r datganiad hwn o argyfwng hinsawdd i drigolion a busnesau yn y sir a’u hannog a’u cefnogi i gymryd camau er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon yn unol gyda 2030.

Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu  cynhesu byd-eang. 

 

Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi eilio’r cynnig hwn.

 

Cafwyd dadl.

 

Roedd Arweinydd yr Wrthblaid wedi gwrthwynebu’r cynnig diwygiedig gan nodi ei fod yn effeithio ar natur frys y cynnig. Roedd y Gr?p Llafur wedi mynegi cefnogaeth i’r ymgyrchwyr a oedd wedi mynychu.

 

Roedd Aelodau yn frwd i gadw rhan olaf y cynnig gwreiddiol: Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu  cynhesu byd-deang i lai na 1.5 gradd selsiws.

 

Yn dilyn pleidlais  gofnodedig, cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

 

Fodd bynnag, roedd yr Arweinydd yn hapus i adolygu’r cynnig ac i gynnwys y cynnig diwethaf fel: Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu  cynhesu byd-eang i lai na 1.5 gradd selsiws.

 

Yn dilyn ail bleidlais gofnodedig, cafodd y cynnig ei gymeradwyo.  

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/09/2019

Dyddiad y penderfyniad: 16/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/05/2019 - Cyngor Sir