Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Bod taliadau am drwyddedau ar gyfer arddangosiadau, byrddau, cadeiriau yn cael eu tynnu'n ôl ond bod ffioedd sy'n codi o ddiffyg cydymffurfio â'r cynllun trwyddedau (fel y manylir arnynt yn y polisi presennol) yn parhau.
Bod meini prawf ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y polisi er mwyn caniatáu i fusnesau feddiannu ardal fwy na 18 metr sgwâr lle gellir cyflawni hyn heb beryglu diogelwch neu achosi rhwystr annerbyniol ar y briffordd (ac ar ôl derbyn asesiad risg gan yr ymgeisydd).
Bod unrhyw gais gan fusnes i feddiannu ardal sy'n fwy na 18 metr sgwâr yn cael ei gymeradwyo gan Reolwr Priffyrdd y Sir neu'r Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad â'r aelod lleol a'r Aelod Cabinet dros Weithrediadau.
Bod y Pwyllgor hwn yn argymell i'r Cabinet y dylai'r cynllun trwyddedau ar gyfer safleoedd unigol fel y'i disgrifir o fewn y polisi presennol aros mewn lle.
Dyddiad cyhoeddi: 13/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Cabinet
Accompanying Documents: