Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyhoeddi'r cynnig fel yr ymgynghorwyd arno a chytuno i gyhoeddi hysbysiadau statudol yn ôl y gofyn:
Cynnig i newid dynodiad y Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig yn Ysgol Gynradd Deri View i letya plant ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig, Anawsterau Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu i gynnwys canolfan asesu hefyd.
Cynyddu gallu Canolfan Adnoddau Anghenion Arbennig Overmonnow o 20 i 24 a newid y math o ddarpariaeth a gynigir er mwyn darparu ar gyfer anghenion cymhleth gan gynnwys: Anawsterau Dysgu Difrifol, Anhwylder Sbectrwm Awtistig, Anhwylder Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu, Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog, Anawsterau Corfforol a Meddygol.
Cynnig i sefydlu canolfannau cynhwysiant yn ein pedair ysgol uwchradd.
Cyhoeddi'r cynigion gyda'r addasiad canlynol:
Cynnig i newid y math o ddarpariaeth a gynigir yn y Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig ar gyfer Trefynwy a Chil-y-coed er mwyn darparu ar gyfer gofynion cymhleth gan gynnwys Anawsterau Dysgu Difrifol, Anhwylder Sbectrwm Awtistig, Anhwylder Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu, Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosogac Anawsterau Corfforol a Meddygol.
Bwriad yr addasiad yw argymell bod Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog yn cael eu dileu o'r cynnig.
Cynyddu gallu Canolfan Adnoddau Anghenion Arbennig Pembroke o 20 i 24 a newid y math o ddarpariaeth a gynigir er mwyn darparu ar gyfer Anghenion Cymhleth gan gynnwys: Anawsterau Dysgu Difrifol, Anhwylder Sbectrwm Awtistig, Anhwylder Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu, Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog, Anawsterau Corfforol a Meddygol.
Mae'r addasiad yn argymell y bydd y capasiti'n aros ar 20 o leoedd.
I ail-lunio'r cynnig yn sylweddol ac ail-ymgynghori.
Cynnig i sefydlu ysgol arbennig newydd a fydd yn darparu'r ystod lawn o ddarpariaeth ar safle T? Mounton.
Cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Anghenion Arbennig yn ne'r Sir er mwyn
darparu ar gyfer plant ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig, Anawsterau Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu i gynnwys canolfan asesu hefyd.
Y cynnig i sefydlu dwy uned Cyfeirio Disgyblion Cynradd Rhanbarthol, un yn y Gogledd ac un yn Ne'r sir.
Rhoi'r gorau i'r cynnig hwn a chynnal y ‘status quo’.
Cynnig i'r ysgol arbennig newydd reoli'r Canolfannau Adnoddau Anghenion Arbennig sydd wedi'u lleoli yn ein hysgolion lleol.
Y cynnig i sefydlu Unedau Cyfeirio Disgyblion Uwchradd, un yn y Gogledd ac un yn Ne'r sir.
Cymeradwyo'r defnydd o £201,000 o arian Adran 106 i gynyddu capasiti'r Adnodd Anghenion Arbennig yn Ysgol Gynradd Overmonnow gan 4 lle. Mae hyn yn unol â chytundeb Adran 106.
Dyddiad cyhoeddi: 13/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Cabinet
Accompanying Documents: