Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn argymell i'r Cyngor
Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion arbedion angenrheidiol a rhyddhau £1.653 miliwn o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi i sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi cyllideb refeniw a chyfalaf 2017/18 ac yn nodi'r lefel critigol isel o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi o £4.85 miliwn sydd ar ôl ar ddiwedd 2017/18.
Bod y Cyngor yn argymell i'r Cyngor y cedwir gofod yn y gyllideb refeniw i alluogi sicrhau ymrwymiadau cyfalaf allweddol a wnaed eisoes wrth i wybodaeth bellach ddod ar gael a'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo. Defnyddir cronfa wrth gefn Cydraddoli Trysorlys i gynnal y gofod os oes angen.
Bod y Cabinet yn argymell fod y Cyngor yn gwaredu ag asedau a ddynodwyd yn y papur cefndir eithriedig am ddim llai na'r ystyriaeth orau y gellir yn rhesymol ei gael.
Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gadernid y broses cyllideb a digonolrwydd yr adnoddau a gyhoeddwyd dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003.
Bod y Cabinet yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol am Ddangosyddion Darbodus.
Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r dilynol::
i. Gwneud gwaith pellach i ddatblygu cynllun ariannol tymor canol dros y cyfnod tair blynedd 20187/19 i 2020/21
ii. adolygu'r cynllun ariannol tymor canol yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau'n gyfoes
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2017 - Cabinet
Accompanying Documents: