Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Bod yr Aelodau'n ystyried y gorwariant refeniw net o £471,000 a rhagwelwyd.
Bod Aelodau'n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £35.7 miliwn, sy'n unol â darpariaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn, ar ôl y llithriant arfaethedig o £75,000. Mae hyn yn disgrifio'r sefyllfa o ran mantoli'r gyllideb yn gynnar yn y flwyddyn, er bod posibilrwydd o gostau ychwanegol i ysgolion yr 21ain ganrif o ran dileu mwy o asbestos a chostau trin nas rhagwelwyd, y mae cydweithwyr yn nodi gall fod gwerth tua £350,000.
Bod Cabinet yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn a gynigir ym mharagraff 3.8.1,
Bod Aelodau'n nodi y bydd y lefel isel o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn lleihau’n sylweddol hyblygrwydd y Cyngor i gwrdd â her adnoddau prin yn y dyfodol.
Bod Aelodau'n nodi graddau'r symudiadau mewn cyllidebau unigol a gyllidebwyd ar gyfer balansau ysgolion, ac yn cydnabod diffyg rhagamcanol net a gofnodwyd o £622 mil sy’n ganlyniad i hynny, a chefnogi diwygiadau i Reoliadau Ariannu Tecach Cyngor Sir Fynwy fel y'u disgrifir ym mharagraff 3.8.13 ar gyfer ymgysylltu pellach â fforymau ysgolion a chyrff llywodraethu.
Dyddiad cyhoeddi: 13/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 25/07/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/07/2018 - Cabinet
Accompanying Documents: