Manylion y penderfyniad

STRATEGAETH DDRAFFT TRAIS YN ERBYN MENYWOD, CAM-DRIN YN Y CARTREF A THRAIS RHYWIOL (VAWDASV)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried ac yn cytuno i fabwysiadu'r Strategaeth VAWDASV Gwent (Atodiad A) drafft fel rhan o gydweithrediad rhanbarthol Gwent wrth gyflawni Deddf VAWDASV (2015).

 

Bod y Cabinet yn cytuno i fabwysiadu'r Strategaeth ddrafft ar sail y ffaith y bydd y copi terfynol yn cynnwys argymhellion ar draws y 4 Pwyllgor Craffu Awdurdod Lleol arall a bwrdd craffu partneriaid Gwent. Cafodd y strategaeth ddrafft ei chymryd i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf Cyngor Sir Fynwy ar 29ain Mawrth, lle gwnaed yr argymhellion canlynol:

·       Cynnwys rhif ffôn y llinell gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn a gwybodaeth  am y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol

·       Cynnwys gwybodaeth benodol am y prosiect a manylion y lleoliad ar gyfer y darllenwyr hynny nad ydynt yn gyfarwydd â'r dirwedd o bosibl

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 11/04/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/04/2018 - Cabinet

Accompanying Documents: