Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn parhau i gomisiynu rhan 1 a 2 o broses GRIP 3, (prosiect 97362) ar gyfer llwybr newydd i orsaf drenau Magwyr am gyfanswm o £62,352 gan ddefnyddio ariannu o weddill Adran 106 o Lôn Greenmoor, cyfraniad Magwyr (£32,346) ynghyd â chyfraniadau ariannol o Gyngor Cymunedol Magwyr a Gwyndy (£10,000), y Gronfa Railfuture (£10,000) a Gr?p Rheilffordd lleol Magwyr (£1,500).
Y dylid ychwanegu £12,000 i god cyllideb 97362 i fodloni'r diffyg a nodwyd yn yr ariannu ar gyfer rhan 2 o broses GRIP 3 ac amcangyfrifir bydd y cyfraniad hwn yn cynnwys treuliau ymgynghori ychwanegol o £3,944. Bod y costau hyn yn mynd i gael eu hariannu gan gyfraniad cyfatebol o weddill Adran 106 sydd dan ofal y Cyngor o ddatblygiad Gorllewin Magwyr (Kingfisher Rise) (Cod Cyllid N579);
Os yw Llywodraeth Cymru yn cytuno i ad-dalu'r ariannu ar gyfer rhan o GRIP 3, neu'r cyfan, yna dylai'r cyllid a nodwyd yn 2.1 uchod gael ei gadw wrth gefn i gefnogi cyfnodau pellach o broses GRIP ar gyfer y llwybr arfaethedig newydd i orsaf Magwyr, heb yr angen i gyfeirio yn ôl i'r Cabinet;
Y dylid diffinio'r ardal o fudd ar gyfer defnyddio gweddill y cyllid hamdden oddi ar y safle o Gytundeb Kingfisher Rise S106 (£219,710) fel "ffin weinyddol Cyngor Cymunedol Magwyr a Gwyndy".
Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2017
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2016
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2016 - Cabinet
Accompanying Documents: