Manylion y penderfyniad

RESOURCES - ENABLING A FUTURE FOCUSED COUNCIL

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Yn cymeradwyo strwythur DMT Adnoddau newydd. (Atodiad 1a)

 

Yn cymeradwyo’r uwch strwythur gyllid a chreu rôl newydd fel Pennaeth Gwasanaeth (Pennaeth Cyllid Prosiectau)  a thîm Cyllid Prosiectau er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu prosiectau  sydd o bwys strategol. (Atodiad 5)

 

Cymeradwyo ailstrwythuro’r timau yn Adnoddau Dynol, y DPO a’r timau Gwasanaethau Masnachol a Landlord Integredig. (Atodiadau 2, 3 a 4)

 

Diweddaru’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Rheolwyr Cyllid o fewn y cyfarwyddiaethau Plant a Phobl Ifanc a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro yn MonLife er mwyn sicrhau bod yna eglurder o ran atebolrwydd i’r Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau, y Swyddog  A151 a’r Dirprwy Swyddog A151 ar gyfer materion proffesiynol, technegol a chyllidol statudol ac er mwyn sicrhau  rheolaeth gyllidol, rheoli a llywodraethiant effeithiol ar draws yr Awdurdod cyfan.  

 

Bydd gweithredu’r cynigion ailstrwythuro llawn yn cynnig arbedion ariannol cychwynnol o  £32,000 yn y flwyddyn gyllidol yn 19/20. Mae disgwyl i hyn gynyddu i isafswm o £150,000 ym mlwyddyn ariannol 20/21 ac isafswm o  £250,000 ym mlwyddyn ariannol 21/22.

 

Bydd y sefydliad cymeradwy yn tyfu  o ran y nifer o swyddi parhaol i 16.86, ac ni fydd 2 o’r rhain yn cael eu llenwi yn y tymor byr, ac mae mwy o fanylion a’r rhesymeg wedi eu cynnwys ym mhara 3.10.

 

Bydd y model cyllido yn profi gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer ffioedd proffesiynol allanol o £25,000, gostyngiad yn y gyllideb goramser o £17,000 ac incwm masnachol o £201,000. Wrth wneud hyn, byddwn yn sicrhau  arbedion maint mewnol priodol / creu cymysgedd o sgiliau  a fydd yn cynnig sicrwydd / buddiannau o ran lles staff yn y rhaglenni a’r prosiectau sydd yn cael eu cyflenwi. 

 

Bydd y newidiadau yn cael effaith ar gytuneddau lefel gwasanaeth /  ni fydd perthnasau codi ffioedd gydag ysgolion  yn cael eu gweithredu/  tan ei fod yn eglur bod yr ysgolion yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig / yn derbyn unrhyw addasiadau  o ran codi ffioedd sydd yn disgyn o fewn cyllidebau’r ysgol.

 

Mae unrhyw gostau sydd yn ymwneud gyda gweithredu’r strwythur (e.e. costau diswyddo) i’w talu o gyllideb Adnoddau ond os yw hyn yn annigonol, bydd yna gais m gyllid corfforaethol  i dalu am gostau diswyddo un tro.  

 

Mae’r Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau yn bwrw ymlaen gyda gweithredu’r strwythur newydd ac yn gwneud unrhyw addasiadau sydd yn dod yn amlwg yn ystod y  broses gan ymgynghori gyda’r aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau.

Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2019 - Cabinet

Accompanying Documents: